9. June 2026
Cwmplin // Compline
Yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân. Amen
In the name of the Father, the Son, and the Holy Spirit. Amen
Ymdawelu // Becoming Still
Dduw oriau’r nos
God of the night hours,
a llewyrch y lleuad a phefrio’r sêr,
brightness of moon and shining of stars,
wrth i’r cysgodion newid
as the shadows shift
ac i dywyllwch y nos ddisodli’r dydd;
and darkness dismembers the day;
tawela’r ddaear a’i chofleidio
calm and caress the earth,
â’th ofal a’th adfywiad
with your rest and refreshment,
gan ei hadnewyddu
the heart’s renewal
mewn hyder ar gyfer gwawr.
for a new day’s dawn.
Dduw oriau’r nos
God of the night hours
a llewyrch y lleuad a phefrio’r sêr,
Brightness of moon and shining of stars,
taena dy orffwys tawel
extend your gentle rest
dros bawb sy’n ceisio eu hatgyfnerthu mewn cwsg,
on all beset by troubled thoughts.
dros bawb sy’n ymdrechu cysgu’n dawel heno.
on all who strive for quiet sleep this night.
Yn nhreigl oriau’r nos
And with the turning of the long night hours,
tyrd ag iachâd ac adfywiad
bring healing and renewal,
‘rôl teithio’r diwrnod a fu. Amen
destination of the day now done. Amen
Amgylchyna ni, Arglwydd:
Circle us, Lord:
Cadw gariad y tu mewn a chasineb y tu allan.
keep love within and hatred without.
Amgylchyna ni, Arglwydd:
Circle us, Lord:
cadw maddeuant y tu mewn ac anaf y tu allan.
keep pardon within and injury without.
Amgylchyna ni, Arglwydd:
Circle us, Lord:
cadw ffydd y tu mewn ac amheuaeth y tu allan.
keep faith within and doubt without.
Amgylchyna ni, Arglwydd:
Circle us, Lord:
cadw gobaith y tu mewn ac anobaith y tu allan.
keep hope within and despair without.
Amgylchyna ni, Arglwydd:
Circle us, Lord:
cadw olau y tu mewn a thywyllwch y tu allan.
keep light within and dark without.
Amgylchyna ni, Arglwydd:
Circle us, Lord:
cadw lawenydd y tu mewn a thristwch y tu allan.
keep joy within and sadness without.
Amgylchyna ni, Arglwydd:
Circle us, Lord:
cadw heddwch y tu mewn ac ofn y tu allan.
keep peace within and fear without.
Amgylchyna ni, Sanctaidd-Tri,
Circle us, Sacred Three,
nawr ac am byth. Amen
now and forever. Amen
Cantigl, Emyn, neu Salmodi // Canticle, Hymn, or Psalmody
Offrwm Gweddi // Offering of Prayer
Dan ni’n rhoi diolch am y diwrnod a fu;
We give thanks for the day that has been:
gan dderbyn maddeuant, gydnabod ein methiannau,
receiving forgiveness, acknowledging our failures
a thalu sylw i ffynhonnau bywyd newydd yn ein plith
and paying attention to the springs of new life.
Dan ni’n enwi'r lleoedd hynny o dir a môr
We name those places of land and sea over which
y byddem yn siarad bendith heddwch drostynt…
we would speak the blessing of peace…
Dan ni’n gweddio dros Enlli – Ynys yr Atgyfodiad —
We pray for Enlli – Isle of Resurrection –
ac am ffyniant ei bywyd oll.
and for the flourishing of all her life.
Dan ni’n gweddio dros y cymunedau lle rydym yn byw ac yn gweithio…
We pray for the communities where we live and work…
Dan ni’n gweddio dros ein gilydd, dros y Clas a Gwasg Gylfinir…
We pray for one another, the Clas and Gwasg Gylfinir…
Cantigl Cau // Closing Canticle
Dan ni’n offrymu ein bwriadau
We offer our intentions
i fyw bywyd i’r eithaf yn y foment bresennol
to live more fully in the present moment
trwy gydol y diwrnod i ddod.
throughout the day to come.
Boed i ni wrando'n ddwfn, siarad yn garedig,
May we listen deeply, speak kindly,
a bydded i'n offrymau bach o gariad, gobaith a chreadigrwydd
and may our tiny offerings of love, hope and creativity
danseilio'r ofn sy'n troi mor hawdd i atgas.
subvert the fear which so easily grows into hate.
Wrth i ni wehyddu shalom i wefl cyffredin ein bywydau,
As we weave shalom into the ordinary weft of our lives,
bydded i ni ymarfer gostyngeiddrwydd, cydnabod ein bregusrwydd
may we practise humility, acknowledge vulnerabilty
a thyfu mewn cwmpeiniaeth a chariad.
and grow in companionship and love.
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
Our Father, who art in heaven,
sancteiddier dy enw.
hallowed be thy name.
deled dy deyrnas,
Thy kingdom come,
gwneler dy ewyllys,
thy will be done,
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
on earth as it is in heaven.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol
Give us this day our daily bread,
A maddau i ni ein dyledion,
and forgive us our trespasses,
fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
as we forgive those who trespass against us.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth,
And lead us not into temptation,
eithr gwared ni rhag drwg.
but deliver us from evil.
Canys eiddot ti yw'r deyrnas,
For thine is the kingdom,
a'r gallu, a'r gogoniant
the power and the glory,
yn oes oesoedd. Amen.
now and for ever. Amen.
Bendith // Blessing
Dduw oriau’r nos
God of the night-time
a llewyrch y lleuad a phefrio’r sêr,
and of the illuminating moon and shining of stars,
wrth i’r cysgodion newid a llenni’r tywyllwch gau
as the shadows change and darkness descends
boed i oleuni dy gariad ein llenwi
may the light of your love fill us
â gobaith a thangnefedd
with hope and peace
drwy gwsg y nos hon;
through this night’s sleep;
i ddeffro i ddiwrnod newydd
to awaken to a new day
gan groesawu popeth a fydd
welcoming all that is
ac a all fod i ni.
and all that may be.
Bydd gyda ni yn dywysydd a doethineb,
Be with us as guide and wisdom,
yn awr a hyd byth. Amen
now and for all eternity. Amen
Yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân. Amen
In the name of the Father, the Son, and the Holy Spirit. Amen
Dychwelyd i Gartref Betws Beunydd // Return to Betws Beunydd Home
Dawn - Morning - [Mid-morning - Midday - Mid-afternoon] - Evening - Night
Gwawr - Boreol - [Canol bore - Canol dydd - Canol prynhawn] - Hwyrol - Cwmplin