Gwasg Gylfinir
gylfinir – cur·lew ['kəːluː]
Aderyn mawr o'r teulu pibwyr tywod, gyda bil hir i lawr, plu brown streipiog, ac yn aml galwad dwy nodyn esgynnol nodweddiadol.
Fore wyntog unwaith, lawer taith ymfudo yn ôl, roedd Gylfinir yn brysur yn bugeilio’r cymylau pan welodd y Sant ymhell islaw. Roedd Beuno wedi cychwyn o Glynnog Fawr yn ei gorwgl — ar bererindod wythnosol i galonogi pobl Dwynwen a rannu efo nhw o lyfr mawr Gobaith a Chariad.
Yn ddisymwth, fe sgwpiwyd llyfr anhywerth Beuno dros ymyl y cwch gan don enfawr, ac aeth Beuno, â’i galon drom, yn ei flaen, gan lusgo’r llong fach i fyny’r traeth ar yr ochr draw. Yn ei siom, methodd edrych o’i gwmpas a sylweddoli bod…
… Gylfinir wedi troi’n ei ôl ac yn sodli’n sydyn tua’r môr – yn gyflymach ac yn gyflymach, fel corcyn sgriw neu fel carreg yn disgyn. Ac yn awr, yn yr eiliad fechan cyn i’r llyfr ddiflannu am byth dan y don, fe’i daliodd yn ei geg rymus. Hedfanodd yn isel dros wyneb y dŵr, a’i osod wrth draed y sant diolchgar.”