Llaswyr

Llaswyr Mair // Rosary

Er nad yw i bawb, mae rhai yn gwerthfawrogi'r gweddiau hynafol y llaswyr. Yma rydym yn rhestru rhai deunyddiau dwyieithog ar gyfer gweddïo'r llaswyr.

Yn draddodiadol, byddem yn cyffesu credo, un Weddi'r Arglwydd, tair Henffych Fair, ac un Gogoniant; wedyn yn mynd trwy'r pum dirgelwch perthnasol, sef myfyrdodau o fywyd Crist, trwy gyhoeddi'r dirgelwch, ella darllen ysgrythurau perthnasol, ella ychwanegu meddyliau neu weddïau personol, wedyn un Weddi'r Arglwydd, a deg gweddi fach fel arfer Henffych Fair ("degawdau"), wrth fyfyrio ar y dirgelwch, wedyn yn cloi gydag un Gogoniant a Weddi Fatima. Ar ôl gweddïo'r dirgelion, gellir gwneud nifer o weddïau cloi.

Mae'r llaswyr yn wahoddiad i dynnu ochr yn ochr â Mam Dduw sy'n gweddïo, gan syllu ar Grist, a myfyrio ar yr Ysgrythur. Ond mae'r llaswyr wedi'i enwi fel offrwm gweddi hardd, persawrus, a lliwgar fel garland o rosyn. Felly rydym yn gweddïo â'n calonnau, fel yr ydym yn gyfforddus, fel yr ydym yn addoli Crist orau. Ella y bydd rhai’n amrywio o ran yr hyn maen nhw’n ei fyfyrio ar gyfer y degawdau, neu ba weddïau a ddefnyddir o amgylch y degawdau, neu ba weddïau fach a ddefnyddir yn y degawdau, boed yn dawel, ar lafar, neu canu, neu unrhyw nifer arall o ffyrdd o ymgysylltu’n greadigol â’r weithred brydferth hon o weddïo. Hefyd mae’n llawenydd arbennig gwneud hynny gan ymgysylltu â’r iaith Gymraeg a gweddïau Celtaidd. Mwynhewch!

Though not for everyone, some value the ancient prayer practice of the rosary. Here we list some bilingual materials for praying the rosary.

Traditionally, we would profess a creed, one Lord's Prayer, three Hail Marys, and one Glory Be; then go through the five relevant mysteries, which are examinations of the life of Christ, by announcing the mystery, perhaps reading relevant passages, perhaps adding personal reflections or prayers, then one Lord's Prayer, and ten small prayers usually Hail Marys ("decades"), while meditating on the mystery, then closing with one Glory Be and Fatima Prayer. After praying the mysteries, a number of closing prayers might be made.

The rosary is an invitation to draw alongside the praying Mother of God, gazing upon Christ, and meditating on Scripture. But the rosary is named such as a beautiful, fragrant, and colourful offering of prayer like a garland of roses. So we pray with our hearts, as we are comfortable, as we best adore Christ. Some might vary on what they meditate for the decades, or which prayers are used surrounding the decades, or which small prayers are used in the decades, whether silent, spoken, or sung, or any other number of ways of creatively engaging with this beautiful act of prayer. It is also a particular joy to do so engaging the Welsh language and Celtic prayers. Enjoy!

Llaswyr Mair

Arwydd y Groes

Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân. Amen

Credo’r Apostolion

Credaf yn Nuw, Dad hollgyfoethog,

creawdwr nefoedd a daear.

Credaf yn Iesu Grist, unig Fab Duw, ein Harglwydd ni,

a genhedlwyd o’r Ysbryd Glân,

a aned o Fair Forwyn,

a ddioddefodd dan Pontius Pilat,

a groeshoeliwyd, a fu farw ac a gladdwyd;

disgynnodd i blith y meirw.

Ar y trydydd dydd fe atgyfododd;

esgynnodd i’r nefoedd,

ac y mae’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad,

ac fe ddaw i farnu’r byw a’r meirw.

Credaf yn yr Ysbryd Glân,

yr Eglwys lân gatholig,

cymun y saint,

maddeuant pechodau,

atgyfodiad y corff,

a’r bywyd tragwyddol. Amen.

Credo Niceno-Constantinopolitan

Credaf yn un Duw, y Tad Hollalluog,

gwneuthurwr nef a daear,

a phob peth gweledig ac anweledig.

Ac yn un Arglwydd Iesu Grist,

unig-genedledig Fab Duw,

cenedledig gan y Tad cyn yr holl oesoedd,

Duw o Dduw, Llewyrch o Lewyrch,

Gwir Dduw o Wir Dduw,

wedi ei genhedlu, nid wedi ei wneuthur,

yn un hanfod â’r Tad,

a thrwyddo ef y gwnaed pob peth:

yr hwn er ein mwyn ni ddynion,

ac er ein hiachawdwriaeth

a ddisgynnodd o’r nefoedd,

ac a gnawdiwyd trwy’r Ysbryd Glân o Fair Forwyn,

ac a wnaethpwyd yn ddyn,

ac a groeshoeliwyd hefyd drosom dan Pontius Pilat.

Dioddefodd ac fe’i claddwyd,

ac atgyfododd y trydydd dydd yn ôl yr Ysgrythurau,

ac esgynnodd i’r nef,

ac y mae’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad.

A daw drachefn mewn gogoniant

i farnu’r byw a’r meirw:

ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.

A chredaf yn yr Ysbryd Glân,

yr Arglwydd, y Bywiawdwr,

sy’n deillio o’r Tad a’r Mab,

yr hwn gyda’r Tad a’r Mab a gyd-addolir

ac a gyd-ogoneddir,

ac a lefarodd trwy’r proffwydi.

A chredaf yn Un Eglwys Lân Gatholig ac Apostolig.

Addefaf un Bedydd er maddeuant pechodau.

A disgwyliaf am Atgyfodiad y meirw,

a bywyd y byd sydd i ddyfod.

Amen.

Gweddi’r Arglwydd

Ein Tad,

yr hwn wyt yn y nefoedd,

sancteiddier dy enw;

deled dy deyrnas;

gwneler dy ewyllys;

megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.

Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol.

A maddau i ni ein dyledion,

fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.

Ac nac arwain ni i brofedigaeth;

eithr gwared ni rhag drwg.

Cyfarchiad i Fair

Henffych well, Mair, gyflawn o ras,

Yr Arglwydd sydd gyd â thi,

Bendigedig wyt ti, ymhlith merched,

a benedigedig yw ffrwyth dy groth di, Iesu.

Sanctaidd Fair, Mam Duw,

gweddïa drosom ni pechaduriaid,

yr awr hon ac yn awr ein hangau.

Gogoniant

Gogoniant i’r Tad ac i’r Mab:

ac i’r Ysbryd Glân;

fel yr oedd yn y dechrau,

y mae yn awr, ac y bydd yn wastad:

yn oes oesoedd. Amen

Fatima

O fy Iesu, maddau i ni ein pechodau,

Achub ni rhag tanau uffern,

Ac arwain pob enaid i’r nefoedd,

Yn enwedig y rhai sydd fwyaf angen dy drugaredd.

Y Dirgelion

Y Dirgelion Llawen

1. Y Cyfarchaid i Fair

2. Ymweliad Mair ag Elisabeth

3. Genedigaeth Iesu Grist

4. Cyflwyno’r baban Iesu yn y deml

5. Y bachgen Iesu gyda’r docoraid yn y deml

Y Dirgelion Goleuol

1. Bedydd yr Arglwydd

2. Y Briodas yng Nghana

3. Cyhoeddi’r Deyrnas, a’n galw i dröedigaeth

4. Y Gweddnewidiad

5. Sefydlu’r Ewcharist

Y Dirgelion Gofidus

1. Iesu’n gweddïo a chwysu gwaed yn yr ardd Gethsemene

2. Fflangellu Iesu

3. Y goron ddrain ar ben Iesu

4. Iesu’n dwyn ei groes

5. Croeshoelio Iesu

Y Dirgelion Gogoneddus

1. Atgyfodiad ein Harglwydd

2. Dyrchafael Crist i’r nef

3. Yr Ysbryd Glân yn dysgyn ar yr Apostolion

4. Dyrchafiad Mair i’r nef

5. Coroni Mair yn y nefoedd, a gogoniant yr holl Saint

Salve Regina

Henffych well, Frenhines lân, Mam Trugaredd;

ein bywyd, ein melyster, a’n gobaith, henffych well.

Arnat ti y llefwn, blant alltud Efa;

tuag atat yr ochneidiwn dan gwynfan ac wylo yn hyn o ddyffryn dagrau.

Tithau, gan hynny, ein heiriolwraig ni, tro dy lygaid tosturiol tuag atom,

ac ar ôl ein halltudiaeth yma, dangos inni Iesu, ffrwyth bendigedig dy groth di.

O drugarog, O addfwyn, O felys Forwyn Fair.

Gweddïa drosom ni, sanctaidd Fam Duw.

Am ein gwneud yn deilwng o addewidion Crist.

Gweddi Michael Sant

O Sant Mihangel yr Archangel, amddiffyn ni yn y frwydr,

bydded ein amddiffyniad yn erbyn drygioni a maglau'r diafol.

Gofynnwn yn ostyngedig i Dduw ei geryddu,

ac i ti, O Dywysog y lluoedd nefol,

drwy'r nerth Duw, bwrw i uffern Satan a'r holl ysbrydion drwg

sy'n crwydro drwy'r byd i ddifetha eneidiau. Amen. 

Gweddïwn:

O Dduw,

Gan fod dy unig-anedig Fab, trwy ei fywyd, ei angau, a’i atgyfodiad, wedi ennill inni gwobr y bywyd tragwyddol, 

Dyro i ni, erfyniwn arnot, wrth myfyrio ar y dirgeleddau hyn o'r llaswyr sanctaidd y Fendigaid Forwyn Fair, 

gawn efelychu'r hyn sydd yn eu cynnwys, a chael yr hyn sydd wedi ei addo ynddynt

Trwy’r un Grist ein Harglwydd.

Amen.

Arwydd y Groes

Rosary of Mary

Sign of the Cross

In the name of the Father, the Son, and the Holy Spirit. Amen

Apostles’ Creed

I believe in God, the Father almighty,

creator of heaven and earth.

I believe in Jesus Christ, his only Son, our Lord,

who was conceived by the Holy Spirit,

born of the Virgin Mary,

suffered under Pontius Pilate,

was crucified, died, and was buried;

he descended into Hell/to the dead.

On the third day he rose again;

he ascended into heaven,

he is seated at the right hand of the Father,

and he will come to judge the living and the dead.

I believe in the Holy Spirit,

the holy catholic Church,

the communion of saints,

the forgiveness of sins,

the resurrection of the body,

and life everlasting.

Amen.

 

Niceno-Constantinopolitan Creed

We believe in one God,

the Father, the Almighty,

maker of heaven and earth,

of all that is,

seen and unseen.

We believe in one Lord, Jesus Christ,

the only Son of God,

eternally begotten of the Father,

God from God, Light from Light,

true God from true God,

begotten, not made,

of one Being with the Father;

through him all things were made.

For us and for our salvation he came down from heaven,

was incarnate from the Holy Spirit and the Virgin Mary

and was made man.

For our sake he was crucified under Pontius Pilate;

he suffered death and was buried.

On the third day he rose again

in accordance with the Scriptures;

he ascended into heaven

and is seated at the right hand of the Father.

He will come again in glory to judge the living and the dead,

and his kingdom will have no end.

We believe in the Holy Spirit,

the Lord, the giver of life,

who proceeds from the Father and the Son,

who with the Father and the Son is worshipped and glorified,

who has spoken through the prophets.

We believe in one holy catholic and apostolic Church.

We acknowledge one baptism for the forgiveness of sins.

We look for the resurrection of the dead,

and the life of the world to come.

Amen.

 

The Lord’s Prayer

Our Father in heaven,

hallowed be your name,

your kingdom come,

your will be done,

on earth as in heaven.

Give us today our daily bread.

Forgive us our sins

as we forgive those who sin against us.

Lead us not into temptation

but deliver us from evil.

 

Hail, Mary

Hail, Mary, full of grace, the Lord is with you; 

Blessed are you among women, and blessed is the fruit of your womb, Jesus. 

Holy Mary, Mother of God, pray for us sinners, now and at the hour of our death. 

Glory Be

Glory be to the Father, and to the Son, and to the Holy Spirit.

As it was in the beginning, is now, and ever shall be, 

World without end. Amen

 

Fatima Prayer

O my Jesus, forgive us our sins, 

Save us from the fires of hell, 

And lead all souls to Heaven, especially those most in need of Your mercy.

The Mysteries

The Joyful Mysteries

1. The Annunciation

2. The Visitation

3. The Nativity

4. The Presentation in the Temple 

5. The Finding of the Child Jesus in the Temple

The Luminous Mysteries

1. The Baptism of Jesus in the Jordan

2. The Wedding at Cana

3. The Proclamation of the Coming of the Kingdom of God

4. The Transfiguration

5. The Institution of the Eucharist

The Sorrowful Mysteries

1. The Agony in the Garden

2. The Scourging at the Pillar

3. The Crowning with Thorns

4. The Carrying of the Cross

5. The Crucifixion and Death of Jesus

The Glorious Mysteries

1. The Resurrection

2. The Ascension

3. The Descent of the Holy Spirit

4. The Assumption of Mary

5. The Coronation of Mary

Hail, Holy Queen

Hail, holy Queen, Mother of Mercy,

Hail our life, our sweetness and our hope.

To thee do we cry,

Poor banished children of Eve;

To thee do we send up our sighs,

Mourning and weeping in this vale of tears.

Turn then, most gracious advocate,

Thine eyes of mercy toward us;

And after this our exile,

Show unto us the blessed fruit of thy womb, Jesus.

O clement, O loving,

O sweet Virgin Mary.

Pray for us, O holy Mother of God, that we may be made worthy of the promises of Christ.

Saint Michael’s Prayer

Saint Michael the Archangel, defend us in battle.

Be our protection against the wickedness and snares of the devil.

May God rebuke him, we humbly pray;

And do thou, O Prince of the Heavenly Host,

by the power of God, thrust into hell Satan

and all evil spirits who wander through the world for the ruin of souls. Amen. 

Let us Pray:

O God,

whose only begotten Son, by His life, death, and resurrection, has purchased for us the rewards of eternal life, 

Grant, we beseech You, that by meditating on these mysteries of the Most Holy Rosary of the Blessed Virgin Mary, we may both imitate what they contain and obtain what they promise, 

Through the same Christ our Lord 

Amen.

Sign of the Cross

Information icon

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.