Boreol Weddi
Yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân.
Amen
CANMOL
Diwrnod newydd, creadigaeth newydd, rhodd newydd.
(BB)
Distawrwydd
Mae’r haul yn taenellu
ei grisialau o olau ar groen y môr.
Mae’r dyfroedd yn ymateb —
glas tywyll yn dyfnhau, gofod
lle mae’r Gwyntoedd,
wedi gadael eu marc.
Mae Cariad yn adnabod, ac yn datgan
ei fod yn dda iawn.
Mae dy anadl yn ein cynnal:
yr un anadl a symudodd dros y dyfroedd
cyn i olau y diwrnod cyntaf dorri.
Cyn i'r Gair gael ei lefaru
a roddodd fywyd i'r goleuni.
Yma, ar y ddaear hon,
nid oes amser ond y presennol.
Rydym yn deffro ymhlith saint —
cwmwl tystion
y mae eu gweddïau yn un
â’r gwynt a'r tonnau,
y garreg a’r pridd.
Rydym yn meddwl am y rhai sy'n cadw wyliadwriaeth yma —
trwy storm a distawrwydd,
tywyllwch a golau.
sy'n dysgu ffydd gan lanw a thempest
sy'n croesawu pob diwrnod fel rhodd.
Boed i ni gadw eu cwmni
Boed i ni ddysgu eu llawenydd a'u ffydd.
Boed i ni fyw yn dy eiliad bresennol,
Helpa ni i ymdawelu yn y lle cysegredig hwn.
Distawrwydd
Ar y cyd gyda phopeth sy’n byw,
rydym yn cynnig ein cân foreol:
Arglwydd aruchel, henffych well!
Bydded i eglwys a changell dy ogoneddu;
Bydded i gangell ac eglwys dy ogoneddu;
Bydded i’r lle gwastad a’r lle serth dy ogoneddu;
Bydded i ti fendith y tair ffynnon sydd;
Bydded i’r tywyllwch a’r dydd dy ogoneddu;
Fe’th ogoneddodd Abraham, arweinydd ffydd;
Bydded i fywyd tragwyddol dy ogoneddu;
Bydded i’r adar a’r gwennyn dy ogoneddu;
Bydded i’r adladd a’r glaswellt dy ogoneddu;
Fe’th ogoneddodd Aaron a Moses.
Bydded i’r holl bobl dy ogoneddu;
Bydded i’r saith diwrnod a’r sêr dy ogoneddu;
Bydded i’r awyr a’r ether dy ogoneddu;
Bydded i lyfrau a’r llên dy ogoneddu;
Bydded i’r pysgod yn y cerrynt dy ogoneddu;
Bydded i feddwl a gweithred dy ogoneddu;
Bydded i dywod a thywarch dy ogoneddu;
Bydded i’r holl bethau da a grewyd dy ogoneddu;
A byddwn ni hefyd dy ogoneddu, arglwydd gogoniant:
Arglwydd aruchel, henffych well!
(Llyfr Du Caerfyrddin)
DERBYN MADDEUANT
Mae Duw yn dy garu di.
Mae Duw yn dy faddau di.
Triga mewn cariad.
Mewn ymateb i ras rhyfeddol Duw, gweddïwn:
Arglwydd, yn dy drugaredd diderfyn,
rho i ni edifeirwch
Wrth i ni fyfyrio ar yr hyn sydd wedi bod,
helpa ni i gydnabod
ein meddyliau a’n geiriau a’n gweithredoedd di-gariadus
a dangos i ni sut i fyw.
Distawrwydd
Rydym yn dweud gyda'n gilydd:
Maddau ni, Arglwydd, a helpa ni i faddau eraill
Bydded i ni wrando, bydded i ni ddysgu, bydded i ni garu. Amen.
GWRANDO AR Y GAIR A’R BYD
Llefaraist, a bu golau.
Llefaraist, a bu môr.
Mae’r dyfroedd yn hymian â hud,
Mae’r angenfilod yn teithio islaw.
A gwelwch yr adar –
Dyma nhw’n nofio, dyma nhw’n esgyn
yn gwehyddu eu cân i'r nef.
Darlleniad(au)
Distawrwydd
Fel mae’r Dyfroedd ymateb i alwad y Gwynt
Cynhyrfa ni hefyd:
fel mae’r haul yn chwarae ar ddŵr,
goleuo'r hyn nad ydym yn ei adnabod ynddo'n hunain.
Dysga ni i ymateb
Fel drycin manaw i'r thermol:
yn hamddenol a sylwgar
yn ddidrachwant ac wedi ein codi gan gras.
CADARNHAU
Anwylyd, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd mae cariad oddi wrth Dduw.
Nid oes ofn mewn cariad, oherwydd mae ofn yn cael ei fwrw allan gan gariad.
(1 Ioan 4)
Gadewch i ni gadarnhau'r realiti hwn:
Mae daioni yn gryfach na drwg;
Mae cariad yn gryfach na chasineb;
Mae golau yn gryfach na thywyllwch;
Mae bywyd yn gryfach na marwolaeth;
Mae’r fuddugoliaeth wedi’i ennill trwy'r Un a'n carodd ni.
(Desmond Tutu)
[neu]
Oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth,
a nwyd mor greulon â'r bedd;
y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd,
fel fflam angerddol.
Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad,
ac ni all afonydd ei foddi.
(Cân y Caniadau 8)
YMBILIO
Amgylchyna O Arglwydd â'th gariad
holl fywyd y ddaear hon,
pob enaid sy'n byw yma, yn gweithio ac yn croesawu,
pob un sy'n ymweld â'i glannau.
Distawrwydd
Amgylchyna ein byd yn dy ofal:
Gadael i gariad oroesi ofn
a heddwch disodli rhyfel
Boed i straeon gael eu hadrodd
a phontydd cael eu hadeiladu.
Dan gyffwrdd yr Iachawr
boed i faddeuant dyfu.
Boed i gymunedau ffynnu
a gobaith yn dod i'r amlwg
A boed i hyn i gyd ddechrau
gyda ni.
Distawrwydd
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw.
deled dy deyrnas, gwneler dy ewyllys,
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol
A maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg.
Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r gallu, a'r gogoniant
yn oes oesoedd. Amen.
BENDITH
Yn olaf, rhoi gwreiddiau i’n perthyn.
Atgoffa ni ein bod ni hefyd wedi'n plethu
fel saint a phechaduriaid, gyda chefnforoedd ac ynysoedd,
wrth i’th waith creu
yn parhau.
Tangnefedd y tonnau crychdonnu i ti,
Tangnefedd yr awel ysgafn i ti,
Tangnefedd y ddaear distaw i ti,
Tangnefedd y sêr disglair i ti,
Tangnefedd Tywysog Tangnefedd i ti. Amen.
(Bendith Geltaidd Draddodiadol)
Yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân.
Amen
Morning Prayer
In the name of the Father, the Son, and the Holy Spirit.
Amen
PRAISING
New day, new creation, new gift.
(BB)
Silence
Sunlight sprinkles
her crystals of light on the skin of the sea.
Waters respond
with fathoms of darkening blues, an expanse
where Winds passing
have left their mark.
Love sees, and proclaims
that it is very good.
Your breath sustains us:
the same breath that hovered over the waters
before first daylight broke.
Before the Word was spoken
which lent the light its life.
Here, on this earth,
there is no time but the present.
We wake among saints —
the great cloud of witnesses
whose prayers are one
with stone and soil,
wind and wave.
We think of those who keep
vigil here —
through storm and silence,
darkness and light.
who learn faith in tide and tempest
who hail each day as a gift.
May we keep their company
May we learn their joy and faith.
Let us inhabit your now,
Centre us in this sacred place.
Silence
In chorus with all life,
we offer our morning praise:
Glorious Lord, we give you greeting!
May the church and the chancel praise you,
May the chancel and the church praise you,
May the plain and the hillside praise you,
May the three springs praise you,
May darkness and light praise you,
May the cedar and sweet fruit tree praise you.
Abraham praised you, the founder of faith.
May life everlasting praise you,
May the birds and the honeybees praise you,
May the shorn stems and the shoots praise you,
Aaron and Moses praised you:
May all the people praise you,
May the seven days and the stars praise you,
May the air and the ether praise you,
May the books and the letters praise you,
May the fish in the swift streams praise you,
May thought and action praise you,
May the sand and the earth praise you,
May all good things created praise you.
And we too will praise you, Lord of glory:
Glorious Lord, we give you greeting!
(Black Book of Camarthen)
FORGIVEN, FORGIVING
God loves you.
God forgives you.
Abide in Love.
In response to this extravagant grace, we pray:
Lord, in your infinite mercy,
grant us the gift of repentance.
As we reflect now on what has been,
help us to acknowledge
our unloving thoughts and words and deeds
and show us how to live.
Silence
We say together:
Forgive us Lord and help us to forgive.
May we listen, may we learn, and may we love. Amen.
LISTENING TO WORD AND WORLD
You spoke, and there was light.
You spoke, and the sea took shape.
Deep waters humming with mystery,
great creatures moving unseen
And the birds –
now swimming, now soaring
weaving song into space.
Reading(s)
Silence
As the Seas stir at the Wind’s calling
stir too our depths:
like sunlight on water,
illumine what we know not in ourselves.
Teach us to respond
like the manxie to the thermal:
relaxed and attentive
ungrasping and lifted by grace.
AFFIRMATION
Beloved, let us love one another, for love is from God.
There is no fear in love, for fear is cast out by love.
(1 John 4)
Let us affirm this reality:
Goodness is stronger than evil;
Love is stronger than hate;
Light is stronger than darkness;
Life is stronger than death;
Victory is ours through the One who loved us.
(Desmond Tutu)
[or]
For love is as strong as death,
its jealousy unyielding as the grave.
It burns like blazing fire,
like a mighty flame.
Many waters cannot quench love;
rivers cannot sweep it away.
(Song of Songs 8)
INTERCEDING
Encircle O Lord with your love
all life on this earth,
all who live here and work and welcome,
all who visit her shores.
Silence
Encircle our world in your care:
Let love transcend fear
and peace replace war
May stories be told
and bridges be built.
At the Healer’s touch
may forgiveness grow.
May communities thrive
and hope emerge
And may this begin
with us.
Silence
Our Father, who art in heaven, hallowed be thy name.
Thy kingdom come, thy will be done, on earth as it is in heaven.
Give us this day our daily bread, and forgive us our trespasses,
as we forgive those who trespass against us.
And lead us not into temptation, but deliver us from evil.
For thine is the kingdom, the power and the glory,
now and for ever.
Amen.
BLESSING
Finally, ground us in our belonging.
Remind us that we too are interwoven
as saints and sinners, with oceans and islands,
as your work of creation
persists.
Deep peace of the running wave to you,
Deep peace of the flowing air to you,
Deep peace of the quiet earth to you,
Deep peace of the shining stars to you,
Deep peace of the Prince of Peace to you. Amen.
(Traditional Celtic Blessing)
In the name of the Father, the Son, and the Holy Spirit.
Amen