Llysiau Cymraeg

Os ydym am arddio’n gynaliadwy a gweithio i helpu i gynyddu bioamrywiaeth, mae cymaint o botensial pan fyddwn yn cefnogi ein gilydd ac yn gweithio ar y cyd. Yn ardal Dolbenmaen a Garndolbenmaen mae yna lawer o dirfeddianwyr bach – pobl sy'n byw ar dyddynnod hanesyddol o 4-6 erw. Yn Haf 2026 wnaethon ni drefnu cyfres o sesiynau 'Garn Gwych' yn neuadd y pentref gyda chyfle i ymarfer 'Cymraeg Natur' a chynnig cefnogaeth i'w gilydd, ac awgrymiadau ar gyfer garddio a rheoli tir yn gynaliadwy. Yn dilyn hyn, rydym yn ymweld â gwahanol gerddi i rannu doethineb a phrofiad garddio.


Dyma rai o'r pynciau yr ydym wedi’i drafod:
1. Cymraeg Natur – llysiau / vegetables
2. Hadau ac eginblanhigion
3. Garddio mewn cynhwysydd
4. Planhigion cydymaith
5. Compostio


Diolch i'n siaradwyr am gyfraniadau ardderchog – mae'n gyffrous gweld y gwahanol brosiectau'n datblygu ac yn dysgu sut y gallwn gefnogi ein gilydd gyda datblygiadau gwych i bobl a natur o ganlyniad. 

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r grŵp, llenwch y ffurflen ymholiad.


 

Dyma cwpl o lun o ddigwyddiadau diweddgar, a rhai lawrlwythiadau crynodebau o sgyrsiau.

Awgrymiadau plannu cydymaith

Syniadau compostio

Tyfu gyda chynwysyddion

Hadau ac eginblanhigion

Enwau llysiau cyffredin

Information icon

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.