Clas Gylfinir

Cwmpeinwyr Beuno a Dwynwyn

Gan gofio gweddi Iesu dros undod ac wedi'i ysbrydoli gan y Clas Cymreig hynafol (cymuned o weddi, dysgu a chenhadaeth), rydym yn gymuned wasgaredig eciwmenaidd o Gristnogion sydd ag angerdd i weld ffyniant bywyd dynol a mwy-na-ddynol ar ein planed. 

Rydym yn edrych i ynys Enlli – Ynys yr Atgyfodiad – fel ein cartref ysbrydol ond rydym yn byw ac yn gweithio mewn gwahanol gyd-destunau lleol ledled Cymru a thu hwnt.


Rydym yn datblygu patrwm bywyd ac rydym wedi ymrwymo i weddïo dros fywyd Enlli, pererinion,
heddwch y byd a ffyniant cynefinoedd naturiol a chymunedau lleol. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i ymgysylltu ag ieithoedd a threftadaeth ddiwylliannol Cymru. Ar hyn o bryd, rydym yn cyfarfod yn rhithiol ar nos Sul ar gyfer sgwrs a Gweddi Nos. Rydym hefyd yn datblygu adnoddau gwreiddiol ar gyfer gweddi ddyddiol Celtaidd yn y Gymraeg ac yn Saesneg yn ogystal â chaneuon a cherddoriaeth. 

A fyddech chi'n gwerthfawrogi cwmnïaeth ar y daith? Cysylltwch â ni os hoffech ymuno â ni ar nos Sul a byddwn yn anfon dolen y cyfarfod atoch.

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.